agw. Deuteronomium 15:11
ecyfeiriad at Salm 110:1 a Daniel 7:13

Mark 14

Y cynllwyn yn erbyn Iesu

(Mathew 26:1-5; Luc 22:1,2; Ioan 11:45-53)

1Ychydig dros ddiwrnod oedd cyn y Pasg a Gŵyl y Bara Croyw. Roedd y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dal i edrych am esgus i arestio Iesu a'i ladd. 2Ond medden nhw, “Dim yn ystod yr Ŵyl, neu bydd reiat.”

Eneinio Iesu yn Bethania

(Mathew 26:6-13; Ioan 12:1-8)

3Pan oedd Iesu yn Bethania, aeth am bryd o fwyd i gartref dyn roedd pawb yn ei alw yn ‛Simon y gwahanglwyf‛. Tra roedd Iesu'n bwyta daeth gwraig ato gyda jar alabaster hardd yn llawn o bersawr costus, olew nard pur. Torrodd y sêl ar y jar a thywallt y persawr ar ei ben.

4Roedd rhai o'r bobl oedd yno wedi digio go iawn – “Am wastraff!” medden nhw, 5“Gallai rhywun fod wedi gwerthu'r persawr yna am ffortiwn a rhoi'r arian i bobl dlawd.” Roedden nhw'n gas iawn ati hi.

6“Gadewch lonydd iddi,” meddai Iesu. “Pam dych chi'n ei phoeni hi? Mae hi wedi gwneud peth hyfryd. 7Bydd pobl dlawd o gwmpas bob amser, a a gallwch eu helpu nhw unrhyw bryd. Ond fydda i ddim yma bob amser. 8Gwnaeth hi beth allai ei wneud. Tywalltodd bersawr arna i, i baratoi fy nghorff i'w gladdu. 9Credwch chi fi, ble bynnag fydd y newyddion da yn cael ei gyhoeddi drwy'r byd i gyd, bydd pobl yn cofio beth wnaeth y wraig yma hefyd.”

Jwdas yn cytuno i fradychu Iesu

(Mathew 26:14-16; Luc 22:3-6)

10Ar ôl i hyn ddigwydd aeth Jwdas Iscariot, oedd yn un o'r deuddeg disgybl, at y prif offeiriaid i fradychu Iesu iddyn nhw. 11Roedden nhw wrth eu bodd pan glywon nhw beth oedd ganddo i'w ddweud, a dyma nhw'n addo rhoi arian iddo. Felly roedd yn edrych am gyfle i fradychu Iesu iddyn nhw.

Y Swper Olaf

(Mathew 26:17-30; Luc 22:7-23; Ioan 13:21-30; 1 Corinthiaid 11:23-25)

12Ar ddiwrnod cyntaf Gŵyl y Bara Croyw (hynny ydy, y diwrnod pan oedd hi'n draddodiad i ladd oen y Pasg), gofynnodd disgyblion Iesu iddo, “Ble rwyt ti am fwyta swper y Pasg? – i ni fynd yno i'w baratoi.”

13Felly anfonodd ddau o'i ddisgyblion i Jerwsalem, a dweud wrthyn nhw, “Wrth fynd i mewn i'r ddinas, bydd dyn yn dod i'ch cyfarfod yn cario llestr dŵr. Ewch ar ei ôl, 14a gofyn i berchennog y tŷ y bydd yn mynd iddo, ‘Mae'r athro eisiau gwybod ble mae'r ystafell westai iddo ddathlu'r Pasg gyda'i ddisgyblion?’ 15Bydd yn mynd â chi i ystafell fawr i fyny'r grisiau wedi ei pharatoi'n barod. Gwnewch swper i ni yno.”

16Felly, i ffwrdd â'r disgyblion i'r ddinas, a digwyddodd popeth yn union fel roedd Iesu wedi dweud. Felly dyma nhw'n paratoi swper y Pasg yno.

17Yn gynnar y noson honno aeth Iesu yno gyda'r deuddeg disgybl. 18Tra roedden nhw'n bwyta, dyma Iesu'n dweud, “Wir i chi, mae un ohonoch chi'n mynd i'm bradychu i. Un ohonoch chi sy'n bwyta gyda mi yma.”

19Dyma nhw'n mynd yn drist iawn, a dweud un ar ôl y llall, “Dim fi ydy'r un, nage?”

20“Un ohonoch chi'r deuddeg,” meddai Iesu, “Un ohonoch chi sy'n bwyta yma, ac yn trochi ei fara yn y ddysgl saws gyda mi. 21Rhaid i mi, Mab y Dyn, farw yn union fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud. Ond gwae'r un sy'n mynd i'm bradychu i! Byddai'n well arno petai erioed wedi cael ei eni!”

22Tra roedden nhw'n bwyta dyma Iesu'n cymryd torth, ac yna, ar ôl adrodd y weddi o ddiolch, ei thorri a'i rhannu i'w ddisgyblion. “Cymerwch y bara yma” meddai, “Dyma fy nghorff i.”

23Yna cododd y cwpan, adrodd y weddi o ddiolch eto a'i basio iddyn nhw, a dyma nhw i gyd yn yfed ohono.

24“Dyma fy ngwaed,” meddai, “sy'n selio ymrwymiad Duw i'w bobl. Mae'n cael ei dywallt ar ran llawer o bobl. 25Credwch chi fi, fydda i ddim yn yfed gwin eto, nes daw'r diwrnod hwnnw pan fydda i'n yfed o'r newydd pan fydd Duw yn teyrnasu.”

26Wedyn ar ôl canu emyn, dyma nhw'n mynd allan i Fynydd yr Olewydd.

Iesu'n dweud fod Pedr yn mynd i'w wadu

(Mathew 26:31-35; Luc 22:31-34; Ioan 13:36-38)

27“Dych chi i gyd yn mynd i droi cefn arna i,” meddai Iesu wrthyn nhw. “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud:

‘Bydda i'n taro'r bugail,
a bydd y defaid yn mynd ar chwâl.’ b

28Ond ar ôl i mi ddod yn ôl yn fyw af i o'ch blaen chi i Galilea.”

29“Wna i byth droi cefn arnat ti!” meddai Pedr wrtho. “Hyd yn oed os bydd pawb arall yn gwneud hynny!”

30“Wir i ti,” meddai Iesu wrtho, “heno, cyn i'r ceiliog ganu ddwywaith, byddi di wedi gwadu dair gwaith dy fod yn fy nabod i!”

31Ond roedd Pedr yn mynnu, “Na! wna i byth wadu mod i'n dy nabod di! Hyd yn oed os bydd rhaid i mi farw gyda thi!” Ac roedd y lleill yn dweud yr un peth.

Gethsemane

(Mathew 26:36-46; Luc 22:39-46)

32Dyma Iesu'n mynd gyda'i ddisgyblion i le o'r enw Gethsemane. “Eisteddwch chi yma,” meddai wrthyn nhw, “dw i'n mynd i weddïo.” 33Aeth a Pedr, Iago ac Ioan gydag e, a dechreuodd brofi dychryn a gwewyr meddwl oedd yn ei lethu. 34“Mae'r tristwch dw i'n ei deimlo yn ddigon i'm lladd i,” meddai wrthyn nhw. “Arhoswch yma a gwylio.”

35Aeth yn ei flaen ychydig, a syrthio ar lawr a gweddïo i'r profiad ofnadwy oedd o'i flaen fynd i ffwrdd petai hynny'n bosib. 36“Abba! Dad!” meddai, “Mae popeth yn bosib i ti. Cymer y cwpan chwerw
14:36 cwpan chwerw: gw. nodyn ar 10:38.
yma oddi arna i. Ond paid gwneud beth dw i eisiau, gwna beth rwyt ti eisiau.”

37Pan aeth yn ôl at ei ddisgyblion roedden nhw'n cysgu. A meddai wrth Pedr, “Simon, wyt ti'n cysgu? Allet ti ddim cadw golwg am un awr fechan? 38Cadwch yn effro, a gweddïwch y byddwch chi ddim yn syrthio pan gewch chi'ch profi. Mae'r ysbryd yn frwd, ond y corff yn wan.”

39Yna aeth Iesu i ffwrdd a gweddïo'r un peth eto. 40Ond pan ddaeth yn ôl roedden nhw wedi syrthio i gysgu eto – roedden nhw'n methu'n lân â chadw eu llygaid ar agor. Doedden nhw ddim yn gwybod beth i'w ddweud.

41Pan ddaeth yn ôl y drydedd waith, meddai wrthyn nhw, “Dych chi'n cysgu eto? Dal i orffwys? Dyna ni, mae'r foment wedi dod. Dw i, Mab y Dyn, ar fin cael fy mradychu i afael pechaduriaid. 42Codwch, gadewch i ni fynd! Mae'r bradwr wedi cyrraedd!”

Arestio Iesu

(Mathew 26:47-56; Luc 22:47-53; Ioan 18:3-12)

43Ac ar unwaith, wrth iddo ddweud y peth, dyma Jwdas yn cyrraedd, un o'r deuddeg disgybl, gyda thyrfa yn cario cleddyfau a phastynau. Roedd y prif offeiriaid, yr arbenigwyr yn y Gyfraith a'r arweinwyr Iddewig eraill wedi eu hanfon nhw i ddal Iesu.

44Roedd Jwdas y bradwr wedi trefnu y byddai'n rhoi arwydd iddyn nhw: “Yr un fydda i'n ei gyfarch â chusan ydy'r dyn; arestiwch e, a'i gadw yn y ddalfa.” 45Pan gyrhaeddodd, aeth Jwdas yn syth at Iesu. “Rabbi!” meddai, ac yna ei gyfarch â chusan. 46Yna gafaelodd y lleill yn Iesu a'i arestio. 47Ond dyma un o'r rhai oedd yno yn tynnu cleddyf allan a tharo gwas yr archoffeiriad. Torrodd ei glust i ffwrdd.

48“Ydw i'n arwain gwrthryfel neu rywbeth?” meddai Iesu. “Ai dyna pam mae angen y cleddyfau a'r pastynau yma? 49Pam wnaethoch chi ddim fy arestio i yn y deml? Roeddwn i yno gyda chi bob dydd, yn dysgu'r bobl. Ond rhaid i bethau ddigwydd fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud.” 50Dyma'r disgyblion i gyd yn ei adael, a dianc.

51Ond roedd un dyn ifanc yn dilyn Iesu, yn gwisgo dim amdano ond crys nos o liain. Dyma nhw'n ceisio ei ddal e, 52ond gadawodd ei grys a rhedodd y bachgen i ffwrdd yn noeth.

O flaen y Sanhedrin

(Mathew 26:57-68; Luc 22:54,55,63-71; Ioan 18:13,14,19-24)

53Dyma nhw'n mynd â Iesu at yr archoffeiriad. Roedd y prif offeiriaid a'r arweinwyr eraill, a'r arbenigwyr yn y Gyfraith wedi dod at ei gilydd. 54Roedd Pedr wedi bod yn dilyn o bell. Aeth i mewn i iard tŷ'r archoffeiriad. Eisteddodd yno gyda'r gweision diogelwch yn cadw'n gynnes wrth y tân.

55Roedd y prif offeiriaid a'r Sanhedrin (hynny ydy yr uchel-lys Iddewig) yn edrych am dystiolaeth yn erbyn Iesu er mwyn ei ddedfrydu i farwolaeth. 56Ond chawson nhw ddim tystiolaeth, er fod digon o bobl yn barod i ddweud celwydd ar lw. Y broblem oedd fod eu straeon yn gwrth-ddweud ei gilydd.

57Yn y diwedd, dyma rhywrai yn tystio fel hyn (dweud celwydd oedden nhw): 58“Clywon ni e'n dweud, ‘Dw i'n mynd i ddinistrio'r deml yma sydd wedi ei hadeiladu gan ddynion a chodi un arall o fewn tri diwrnod heb help dynion.’”

59Hyd yn oed wedyn doedd eu tystiolaeth ddim yn gyson!

60Felly dyma'r archoffeiriad yn codi ar ei draed ac yn gofyn i Iesu, “Wel, oes gen ti ateb? Beth am y dystiolaeth yma yn dy erbyn di?” 61Ond ddwedodd Iesu ddim gair.

Yna gofynnodd yr archoffeiriad eto, “Ai ti ydy'r Meseia, Mab yr Un Bendigedig?”

62“Ie, fi ydy e,” meddai Iesu. “A byddwch chi'n fy ngweld i, Mab y Dyn, yn llywodraethu gyda'r
14:62 yn llywodraethu gyda'r: Groeg, “yn eistedd ar ochr dde'r”
Un Grymus ac yn dod yn ôl ar gymylau'r awyr.” e

63Wrth glywed yr hyn ddwedodd Iesu dyma'r archoffeiriad yn rhwygo ei ddillad. “Pam mae angen tystion arnon ni?!” meddai. 64“Dych chi i gyd wedi ei glywed yn cablu. Beth ydy'ch dyfarniad chi?” A dyma nhw i gyd yn dweud ei fod yn haeddu ei gondemnio i farwolaeth.

65Yna dyma rai ohonyn nhw'n dechrau poeri ato, a rhoi mwgwd dros ei lygaid, a'i ddyrnu yn ei wyneb. “Tyrd, Proffwyda!”, medden nhw. Wedyn dyma'r gweision diogelwch yn ei gymryd i ffwrdd a'i guro.

Pedr yn gwadu ei fod yn nabod Iesu

(Mathew 26:69-75; Luc 22:56-62; Ioan 18:15-18,25-27)

66Yn y cyfamser roedd Pedr yn yr iard i lawr y grisiau, a daeth un o forynion yr archoffeiriad heibio. 67Digwyddodd sylwi ar Pedr yn cadw'n gynnes yno, a stopiodd i edrych arno. “Roeddet ti'n un o'r rhai oedd gyda'r Nasaread Iesu yna!” meddai.

68Ond gwadu wnaeth Pedr. “Does gen i ddim syniad am beth rwyt ti'n sôn,” meddai, ac aeth allan at y fynedfa.
14:68 fynedfa: Mae rhai llawysgrifau yn ychwanegu, a dyma'r ceiliog yn canu.

69Ond dyma'r forwyn yn ei weld eto, ac meddai wrth y rhai oedd yn sefyll o gwmpas yno, “Mae hwn yn un ohonyn nhw.” 70Ond gwadu wnaeth Pedr eto.

Ychydig wedyn, dyma rai eraill oedd yn sefyll yno yn dweud wrth Pedr, “Ti'n un ohonyn nhw yn bendant! Mae'n amlwg dy fod ti'n dod o Galilea.”

71Dyma Pedr yn dechrau rhegi a melltithio, “Dw i ddim yn nabod y dyn yma dych chi'n sôn amdano!” 72A'r foment honno dyma'r ceiliog yn canu am yr ail waith. Yna cofiodd Pedr eiriau Iesu: “Byddi di wedi gwadu dy fod yn fy nabod i dair gwaith cyn i'r ceiliog ganu ddwywaith.” Torrodd i lawr a beichio crïo.

Copyright information for CYM